Rhif y ddeiseb:  P-06-1237

Teitl y ddeiseb: Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai.

Geiriad y ddeiseb: Roedd fy mab, sydd ym mlwyddyn 11, wedi paratoi’n llawn i sefyll ei arholiadau Rhifedd TGAU ar 2 a 4 Tachwedd. Ar 31 Hydref, cymerodd brawf llif unffordd yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Roedd y prawf hwn yn bositif, a dilynwyd hyn gan brawf PCR positif. Roedd hyn yn golygu na allai sefyll ei arholiadau er bod yr ysgol wedi’i baratoi’n drylwyr ar eu cyfer yn ddiweddar. Ni ddylai fod o dan anfantais oherwydd y pandemig - ac ni ddylai pobl eraill sydd â Covid fod o dan anfantais chwaith. Maent wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt hwn.

Nid yw negeseuon e-bost gan y bwrdd arholi a Llywodraeth Cymru yn gefnogol o gwbl

 

 


1.                 Arholiadau Haf 2021

Ar 10 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd na fyddai arholiadau diwedd blwyddyn yn 2021.  Ar 20 Ionawr 2021, cyhoeddodd y byddai cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch dysgwyr yn cael eu dyfarnu drwy fodel Gradd a Benderfynir gan y Ganolfan. Roedd hyn yn golygu y byddai graddau'n cael eu pennu gan ysgolion a cholegau (canolfannau) yn seiliedig ar eu hasesiad o waith dysgwyr. Defnyddiodd y canolfannau amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau heblaw arholiadau, ffug arholiadau a gwaith dosbarth, i farnu “cyrhaeddiad dangosedig” disgyblion a dyfarnu gradd briodol iddynt.

2.              Arholiadau mis Tachwedd

Cynhaliwyd arholiadau TGAU mis Tachwedd 2021 yn ôl yr arfer cyn y pandemig. Yn gyffredinol mae arholiadau mis Tachwedd yn cael eu sefyll gan y rhai sy'n ailsefyll arholiadau TGAU er mwyn cael gradd well. Mae hefyd ymgeiswyr 'mynediad cynnar' a all sefyll rhai arholiadau cyn diwedd y flwyddyn ysgol. Caiff yr ymgeiswyr hyn gyfle i sefyll yr arholiad eto yng nghyfres arholiadau'r haf.  

Nifer cyfyngedig o bynciau sydd ar gael yng nghyfres mis Tachwedd o gymharu â chyfres yr haf. Ym mis Tachwedd 2021, bu dysgwyr yng Nghymru yn sefyll cymwysterau TGAU diwygiedig mewn Mathemateg, Mathemateg – Rhifedd, Cymraeg Iaith a Saesneg Iaith.

3.              Haf 2022

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau yn haf 2022. Nodwyd y byddai’r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch CBAC, a’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael eu haddasu i leihau effaith yr amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb a gollwyd yn ystod y pandemig; Mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi dweud, os bydd cyfnodau sylweddol pellach o aflonyddwch sy'n arwain at ganslo cyfresi arholiadau yn y dyfodol, y bydd trefniadau wrth gefn yn cael eu rhoi ar waith.

4.              Myfyrwyr sy'n sâl ar ddiwrnod arholiad

Mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (corff aelodaeth sy'n cynnwys yr wyth darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU) wedi cyhoeddi canllaw i'r broses ystyriaeth arbennig (Medi 2020).  Ystyriaeth arbennig yw addasiad ar ôl arholiad i farc neu radd ymgeisydd. Mae hyn i adlewyrchu salwch dros dro, anaf dros dro neu ddigwyddiad arall y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd ar adeg yr asesiad. Fe'i defnyddir pan fo'r mater neu ddigwyddiad wedi cael, neu'n rhesymol debygol o fod wedi cael, effaith sylweddol ar allu ymgeisydd i sefyll asesiad neu ddangos ei lefel cyrhaeddiad arferol mewn asesiad.

Mae llythyr y Gweinidog yn nodi na roddwyd unrhyw drefniadau wrth gefn penodol (fel defnyddio graddau a bennir gan y ganolfan, y mae’r ddeiseb yn galw amdanynt) ar waith rhag ofn na fyddai dysgwyr yn gallu sefyll eu harholiadau a drefnwyd ym mis Tachwedd oherwydd rhesymau’n ymwneud â COVID-19. Mae’r Gweinidog yn dweud y byddai disgwyl i ysgolion wneud hyn wedi effeithio’n anghymesur ar yr amser addysgu a dysgu a oedd ar gael. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod disgyblion sydd i fod i sefyll eu harholiadau yn gynnar ym mis Tachwedd yn cael cyfle arall i'w sefyll yn yr haf. 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.